|
1,2; 1,3.
Ffordd nid oes o waredigaeth,
Ond agorwyd ar y pren,
Llwybr pechaduriaid euog,
Mewn i byrth y nefoedd wen;
Dyma'r brif-ffordd,
Gwna_im' ei cherdded tra f'wyf byw.
Tyr'd, gan hyny, Iesu'n fuan,
Bydd blaid yr euog gwan,
Sy'n lluddedig gan gystuddiau,
Bron yn methu d'od i'r lan:
Tyn fy enaid,
Fel y rhedwyf ar dy ol.
Nid myfi sydd yn rhyfela,
'Dyw fy ngallu penaf ddim;
Ond mi rois fy holl ryfeloedd
I'r Un godidoca'i rym;
Yn ei allu,
Minnau ddof trwy'r
anial maith.
im' ei cherdded tra f'wyf :: i mi ei cherdded tra bwyf
- - - - -
Ffordd nid oes o waredigaeth,
Ond agorwyd ar y pren,
Llwybr pechaduriaid euog,
Mewn i byrth y nefoedd wèn;
Dyma'r gefnffordd,
Gwna im' ei cherdded tra f'wyf byw.
Pechod yma, cariad acw,
Bwyswyd yn y glorian fawr;
Ac er trymed ydoedd pechod,
Cariad bwysodd hyd y llawr:
Y gair "Gorphenwyd,"
Wnaeth i'r glorian bwysig droi.
William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Dyma Geidwad i'r colledig Nis gall dysgedigion doethaf O na b'ai cystuddiau f'Arglwydd O na chawn ddifyru nyddiau Pechod yma cariad acw 'Rwyf yn haeddu Arglwydd arbed Y mae rhinwedd gras y nefoedd |
There is no way of deliverance,
But that opened on the tree,
A path of guilty sinners,
Into the portals of bright heaven;
Here is the highway,
Make me walk it while ever I live.
Come, therefore, Jesus quickly,
Be on the side of the guilty weak one,
Which is corrupted by afflictions,
Quite failing to come up:
Draw my soul,
That I run after thee.
It is not I who am battling,
My chief might is nothing;
But I give all my battles
To the One of greatest force;
In his might,
Even I shall come
through the vast desert.
::
- - - - -
There is no way of deliverance,
But that opened on the tree,
The path of guilty sinners,
Into the gates of bright heaven;
Here is the highway,
I shall walk while ever I live.
Sin here, love there,
Weighed in the great scales;
And despite how heavy was sin,
Love weighed down to the ground:
The word, "It is finished,"
Made the weighty scales turn.
tr. 2017,20 Richard B Gillion
|
|